
Printiau gan Kyffin Williams
Syr Kyffin Williams yw artist enwocaf ac mwyaf uchel ei barch Cymru..
Mae’r deuddeng print newydd yn argraffiadau cyfyngedig o 350, sydd wedi’u harwyddo gan Syr Kyffin ei hun. Fe gynhyrchwyd y printiau gan wasg enwog y Curwen-Chilford Press, Caergrawnt. Mae’r printiau wedi’u hargraffu ar bapur o ansawdd uchel.
Dymuna Oriel Ynys Môn ddathlu’r cyfraniad aruthrol a wnaed gan Syr Kyffin i’r Oriel ac i’r celfyddydau yn gyffredinol. Mae Syr Kyffin wedi rhoi sêl bendith ar brosiect uchelgeisiol a chyffrous sy’n bwriadu sefydlu oriel arddangos ychwanegol ar safle Oriel Ynys Môn, o’r enw ‘Oriel Kyffin Williams’.
Ar hyn o bryd, mae’r Oriel, trwy’r corff sy’n ei rheoli, sef Cyngor Sir Ynys Môn, wrthi’n codi’r arian sydd ei angen arni i ariannu Oriel Kyffin Williams. I helpu gyda’r gwaith o godi’r arian hwn, yn garedig, caniataodd Syr Kyffin i’r Oriel ddefnyddio darluniau gwreiddiol o’i chasgliadau i greu 12 print newydd.
Isod mae y 12 print newydd:-
I brynu printiau Kyffin Williams yn uniongyrchol ac yn ddiogel ar-lein, cliciwch yma.
Diolch i chi am ymweld â’n gwefan. Os hoffech fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â ni.


