
Arddangos eich gwaith
Ydych chi’n Arlunydd/Ffotograffydd wedi’ch lleoli yng Nghymru, neu â chysylltiad â Chymru? Cliciwch yma i ddarganfod sut i arddangos, hyrwyddo a gwerthu eich gwaith yn uniongyrchol o’n gwefan.
Pwy ydym ni?
Datblygwyd Delweddau gan Delwedd, cwmni Cymreig proffesiynol sydd eisoes wedi’i sefydlu fel Cynlluniwr Gwefannau. I ddarganfod mwy am Delwedd, cliciwch yma.
Prif amcan Delweddau yw hyrwyddo, arddangos a gwerthu Celf weledol gan Arlunwyr a Ffotograffwyr o Gymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru, yn uniongyrchol ac yn ddiogel ar-lein.
Rydym yn gwarantu na fydd modd prynu’r gwaith sydd ar werth ar ein gwefan yn rhatach yn unman arall! Os medrwch – fe ad-dalwn y gwahaniaeth!
Beth yw’r manteision i chi?
Crëwyd Delweddau gan ddefnyddio ein sgiliau arbenigol. Yn ogystal ag Oriel Ar-lein i arddangos gwaith detholedig, bydd yna siop ar-lein ddiogel i’ch galluogi i werthu eich gwaith yn ddiogel ac yn uniongyrchol i’ch cleientiaid. Fe fyddwn ni yn talu’r costau o weithredu’n ddiogel a chostau’r siop ar-lein ar eich rhan.
Rydym yn wahanol i orielau ‘traddodiadol’ – mae ein rhith oriel yn cynnig:-
- Cynulleidfa darged ehangach – Rydym yn anelu maes o law i dderbyn 100,000 o ymwelwyr bob mis!
- Gofod arddangos di-ddiwedd - ni fydd eich gwaith yn cael ei guddio mewn cornel!
- Costau is i chi – Ni fydd angen fframio eich gwaith ymlaen llaw!
- Comisiwn cystadleuol – Llawer is na’r hyn a delir i orielau ‘traddodiadol’!
Bydd y wefan yn cael ei optimeiddio a’i chofrestru gyda’r prif Beiriannau Chwilio i gyd. Yn ogystal bydd ein cyllideb marchnata yn cynnwys talu am hyrwyddo’r wefan gan ddefnyddio Google Adwords ac ymgyrch farchnata draddodiadol mewn cylchgronau, newyddlenni a chyfnodolion yn y DU a’r UDA.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn anfon lluniau o’ch gwaith atom, ynghyd â manylion a phrisiau. Yna fe fyddwn yn creu eich Oriel a’ch Siop Ar-lein..
Pan fydd cleient yn gwneud archeb ac yn prynu eich gwaith byddwn yn cysylltu â chi ar unwaith, ac ar ôl i’r cleient gadarnhau ei fod wedi derbyn eich gwaith, fe fyddwn yn eich talu.
Ein Amserlen
- Awst 2007
– Cwblhau’r wefan - Awst 2007 ymlaen
– Cychwyn Strategaeth Marchnata Ar-lein
– Cysylltu gydag Arlunwyr a Ffotograffwyr
– Ychwanegu gwaith newydd
– Siop Ar-lein yn weithredol - Medi 2007 ymlaen
– Cychwyn ymgyrch hysbysebu mewn cylchgronau, newyddlenni a chyfnodolion yn y DU a’r UDA ar gyfer tymor y Nadolig.
Beth sy’n rhaid i mi wneud nesa?
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos eich gwaith ar ein gwefan mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol.
![]()
Cyfeiriad Post:
Delweddau
Stiwdio Dylunio Digidol,
Ail Lawr,
38-40 Stryd Fawr,
Caernarfon,
Gwynedd
Cymru
LL55 1RH
Ffôn: +44(0)1286 677 769
Ffacs: +44(0)870 1673 298
E-bost: post@delweddau.co.uk
Neu mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau isod i gysylltu â ni:
Ffurflen Ymholiadau Ar-lein | Manylion Lleoliad

